Neidio i'r cynnwys

Preifatrwydd

Ymwadiad

Mae’r datganiad hwn yn ymdrin â’r gwasanaethau penodol a ddarperir gan y Gronfa Loteri Fawr yn:

Y Rheolydd Data ar gyfer y gwefannau hyn yw’r Gronfa Loteri Fawr. Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol eraill ac nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys cysylltiau o fewn y safle hwn â gwefannau eraill.

 

Diben y datganiad hwn yw hysbysu defnyddwyr o wefannau’r Gronfa Loteri Fawr ynghylch pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu amdanynt pan fyddant yn ymweld â’r safleoedd hyn, sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio, a yw’n cael ei datgelu a’r ffyrdd yr ydym yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr.

 

Cyfrinachedd a diogelwch

Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon heb eich caniatâd oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny o dan y gyfraith. Mae gennych yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch chi ar unrhyw un pryd.

 

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu gan ymwelwyr Dylid anfon adborth a sylwadau ar y gwefannau a restrir uchod at webmaster@biglotteryfund.org.uk

Ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon dim ond i ddatblygu a gwella’r safle neu ymateb i chi lle fo’n angenrheidiol.

Cwynion, ceisiadau am wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol.

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu eich cwyn, cais am wybodaeth neu ymholiadau cyffredinol. Mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo eich manylion neu’n eich cyfeirio ymlaen at ddosbarthwr arall y Loteri, adran o fewn y Llywodraeth neu sefydliad perthnasol arall yn ôl yr angen.

 

Negeseuon e-bost a chylchlythyron

Os byddwch yn dewis derbyn negeseuon e-bost, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni i ddarparu’r gwasanaeth(au) yr ydych chi wedi gofyn amdanynt. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â thanysgrifwyr negeseuon e-bost o bryd i'w gilydd i’n helpu i werthuso a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Os byddwch yn ein hysbysu eich bod yn dymuno canslo tanysgrifiad, byddwn yn eich tynnu oddi ar ein rhestr e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu o'n cofnodion.

 

Gwybodaeth ar ddefnyddio'r safle

Briwsion a ffeiliau log

Briwsion yw’r data sy’n cael ei greu pan fyddwch yn ymweld â safle, ac maent yn cynnwys rhif unigryw, anhysbys. Maent yn cael eu storio yng nghyfeiriadur briwsion eich gyriant caled, ac nid ydynt yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn. Nid yw briwsion yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi a ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Os ydych chi’n dewis peidio â derbyn y briwsion, ni fydd hyn yn effeithio ar eich mynediad at fwyafrif o gyfleusterau’r gwefannau.

Mae safleoedd y Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio briwsion ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddiwr nad yw’n wybodaeth bersonol o’r safleoedd, nid yw’r safleoedd yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi ac eithrio'r wybodaeth honno sy’n ofynnol ar gyfer gweinyddu system y gwefannau.

 

Mae'r ffeiliau log yn cofnodi sut y bydd ymwelwyr yn defnyddio safleoedd. Mae Tîm Cyfryngau Newydd y Gronfa Loteri Fawr yn casglu gwybodaeth ffeil log gan ein holl ymwelwyr, a bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud gwelliannau i safleoedd a’r wybodaeth sydd arnynt. Yn yr un modd â Briwsion, nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Wrth i chi dderbyn fersiwn HTML o’r cylchlythyr, byddwn yn derbyn hysbysiad eich bod wedi agor y cylchlythyr e-bost a byddwn yn cadw’r wybodaeth hon.

Byddwn hefyd yn cofnodi pan fyddwch yn clicio ar gysylltiau yn y cylchlythyr. Defnyddir y rhain a’r ystadegau agored ar ffurf gronnus er mwyn rhoi syniad i ni o ba mor boblogaidd yw’r cynnwys ac i’n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch y cynnwys a’r fformatio yn y dyfodol.

 

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon.

Diweddarwyd diwethaf ym mis Mai 2008.

Gofyn i'r Gronfa

Gofyn i'r Gronfa - Holi am ariannu a chael ateb yn ôl

Wedi'i ariannu yn eich ardal chi