Gallu ariannu
Dyma rai prosiectau y gall Arian i Bawb Cymru eu cefnogi:
- cyfleuster crèche ar gyfer cymuned wledig
- cyhoeddusrwydd a hyrwyddo grŵp sy'n ailgylchu cyfrifiaduron
ar gyfer eu defnyddio gan y gymuned
- offer megis peiriannau bingo gweledol, dolenni clywed sy'n galluogi
mwy o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau
- rhoi ymgais ar ffyrdd newydd o recriwtio gwirfoddolwyr
- arddangosfa a llwybr trywydd yn cynnwys adeiladau o ddiddordeb hanesyddol
lleol
- rhannu profiadau'r bobl hŵn o fewn y gymuned gyda phobl ifanc,
gan egluro eu hanes mewn ffurf llyfr neu furlun
- hyrwyddo bwyta'n iach a mwy o ymarfer corff
- creu gardd bywyd gwyllt gymunedol
- cyflwyno pobl i ddiwylliannau eraill drwy gymryd rhan mewn adrodd
storiâu a dramâu
- gwella neuadd bentref i ddarparu gwell cyfleusterau i holl aelodau'r
gymuned
- llinell ffôn gymorth yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl
sydd â chanser a'u gofalwyr
- digwyddiadau hanesyddol sy'n darlunio gwahanol gyfnodau o hanes
a threftadaeth gyfoethog cymuned
- cynnwys mwy o bobl mewn digwyddiad cymunedol.
Dyma enghreifftiau o rai pethau y gellir gwario grant arnynt:
- deunyddiau cyhoeddusrwydd
- llogi lleoliad
- cyfrifiaduron
- costau ymchwil
- costau trafnidiaeth
- treuliau gwirfoddolwyr
- diweddaru offer am resymau iechyd a diogelwch
- adnewyddu
- hyfforddiant
- staff sesiynol
- ffioedd llogi offer
- teganau a gemau addysgiadol.
Gwybodaeth am sut i ymgeisio am grant
Arian i Bawb ar gyfer eich prosiect.