Yr hyn y byddwn yn ei ariannu
Dyma rai enghreifftiau o beth y gall y grant dalu amdanynt:
- teganau a gemau addysgiadol
- llogi offer
- cyfarpar technoleg gwybodaeth
- deunyddiau cyhoeddusrwydd i'w defnyddio yn eich prosiect
- adnewyddu adeiladau
- costau ymchwil
- gweithwyr sesiynol (y rheini sy’n gweithio yn ôl yr angen yn unig)
- hyfforddiant
costau trafnidiaeth - diweddaru cyfarpar oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch
- llogi lleoliad
- treuliau gwirfoddolwyr
- TAW na allwch ei hadennill.
Ond ni fyddwn yn talu am:
- weithgareddau a gynhaliwyd neu a ddechreuwyd cyn i ni gadarnhau ein grant
- unrhyw gostau a wariwyd gennych chi wrth lunio eich cais
- unrhyw arian a wariwyd neu a ymrwymwyd cyn i ni gadarnhau ein grant (gan gynnwys blaendaliadau)
- costau rhedeg beunyddiol (er enghraifft, biliau cyfleustodau, treth y cyngor, rhent ac yswiriant)
- costau wrth gefn
- gwaddolion
- gweithgareddau cyfredol a digwyddiadau trachefn neu reolaidd, gan gynnwys y rheini yr ydym wedi’u hariannu o’r blaen
- astudiaethau dichonolrwydd
- gweithgareddau codi arian ar gyfer eich sefydliad ac eraill
eitemau y bydd unigolion yn elwa ohonynt yn bennaf (er enghraifft, cyfarpar nad yw'n cael ei rannu)
