Crynodeb o’r Rhaglen
Mae Arian i Bawb Cymru yn gynllun grantiau bach syml sy’n dosbarthu dyfarniadau rhwng £500 a £5,000.
Anela’r Rhaglen Arian i Bawb at wella cymunedau lleol a bywydau’r bobl fwyaf anghenus.
Anela Arian i Bawb Cymru at ariannu prosiectau sy’n:
- Cefnogi gweithgarwch cymunedol – drwy helpu cymunedau i gwrdd â’u hanghenion drwy weithredu gwirfoddol, prosiectau hunan gymorth, cyfleusterau neu ddigwyddiadau lleol. (Gyda chymunedau golygwn bobl sydd mewn ardal leol neu bobl sy’n rhannu diddordeb neu angen cyffredin.)
- Ehangu mynediad a chyfranogiad – drwy annog mwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn grwpiau a phrosiectau lleol, a thrwy gefnogi gweithgareddau sy’n amcanu i fod yn agored ac yn hygyrch i bawb sy’n dymuno cymryd rhan.
- Gwella sgiliau a chreadigrwydd – drwy gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i ddatblygu pobl a sefydliadau, gwella sgiliau a chodi safonau.
- Gwella ansawdd bywyd – drwy gefnogi prosiectau lleol sy’n gwella cyfleoedd, iechyd, lles, yr amgylchedd neu gyfleusterau lleol pobl, yn enwedig y rhai sydd o dan yr anfantais mwyaf mewn cymdeithas.
A allaf i ymgeisio?
Fe allech chi fod yn gymwys i ymgeisio am grant Arian i Bawb os allwch chi fodloni un o'r meini prawf a grybwyllir uchod, a:
- eich bod yn grŵp nid-er-elw (gan gynnwys mentrau cymdeithasol), neu eich bod chi’n gyngor cymuned neu dref, ysgol neu gorff iechyd
- bod gennych gyfrif banc sy’n gofyn am o leiaf dau o bobl nad ydynt yn perthyn i'w gilydd i lofnodi pob siec neu i godi arian
- bod gennych gorff llywodraethu gydag o leiaf tri aelod nad ydynt yn perthyn
- eich bod yn gallu gwario'r grant o fewn blwyddyn.
Beth i'w wneud nesaf?
- Os credwch chi eich bod yn gymwys i ymgeisio, edrychwch ar ein tudalen ymgeisio a lawr lwytho’r nodiadau arweiniad a’r ffurflen gais
- Cwestiynau ynghylch Arian i Bawb? Mwy.
- Anghymwys ar gyfer grant Arian i Bawb? Edrychwch ar y grantiau bach eraill sydd ar gael oddi wrth ddosbarthwyr eraill.
Cyswllt
- Ffoniwch ein tîm am gyngor ar 0845 4 10 20 30. 0845 4 10 20 30.
- Anfonwch e-bost at ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth Arian y Loteri ar 0845 275 00 00 0845 275 00 00 neu ewch i www.arianyloteri.org.uk am fanylion arian y loteri sydd ar gael.



