Neidio i'r cynnwys

1. Pwy all ymgeisio am Grant Arian i Bawb?

Ni chewch ymgeisio i raglen Arian i Bawb oni bai eich bod yn grŵp cymunedol, grŵp nid-er-elw, Cyngor Cymuned neu Dref, Corff Iechyd, neu ysgol.

2. Faint o arian y gallwn ni ei dderbyn?

Rhwng £500 a £5,000 er mwyn ariannu prosiect neu weithgaredd penodol. Gall sefydliadau dderbyn hyd at uchafswm o £5,000 gan Arian i Bawb mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

3. Pa ardal ddaearyddol y mae Arian i Bawb yn ei gorchuddio?

Mae Arian i Bawb Cymru yn gorchuddio Cymru gyfan.

4. Beth yw nodau’r Rhaglen?

Nod Arian i Bawb Cymru yw:

  • Cefnogi gweithgarwch cymunedol – trwy gynorthwyo cymunedau i fodloni eu hanghenion drwy weithredu gwirfoddol, prosiectau hunangymorth, cyfleusterau neu ddigwyddiadau lleol. (Wrth gymunedau rydym yn golygu pobl o fewn ardal leol neu bobl sy'n rhannu diddordeb neu angen cyffredin.)
  • Ymestyn ar fynediad a chyfranogiad - trwy annog mwy o bobl i ddod yn weithredol gysylltiedig â grwpiau a phrosiectau lleol, a thrwy gefnogi gweithgareddau sy’n anelu at fod yn agored ac yn hygyrch i bawb sy’n dymuno cymryd rhan.
  • Cynyddu sgiliau a chreadigedd – trwy gefnogi gweithgareddau sy’n cynorthwyo i ddatblygu pobl a sefydliadau, gwella sgiliau a chodi safonau.
  • Gwella ansawdd bywyd – trwy gefnogi prosiectau lleol sy’n gwella cyfleoedd pobl, eu hiechyd, eu lles, eu hamgylchedd neu gyfleusterau lleol, yn enwedig y bobl fwyaf difreintiedig yn y gymdeithas.

5. Pwy ddylwn i gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth?

Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut i ymgeisio neu i gynllunio eich prosiect, mae sawl ffynhonnell cyngor a chymorth ar gael. Ffoniwch ein Llinell Gynghori Fawr neu anfonwch e-bost gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Arian i Bawb yn


Dewiswch rhanbarth

Wedi'i ariannu yn eich ardal chi