Neidio i'r cynnwys

Canllawiau cyhoeddusrwydd

Mae cyhoeddusrwydd yn bwysig. Mae'n galluogi eich prosiect i ddweud wrth bobl pwy ydych chi, beth ydych chi'n ei wneud a sut fydd eu cymuned yn elwa.

Mae hefyd yn bwysig i adael i bobl wybod ble mae eu harian Loteri Genedlaethol yn cael ei wario ac i annog eraill i ymgeisio.

Rydym wedi creu'r canllawiau cyhoeddusrwydd yma i'ch helpu i gwrdd â'r amcanion yma. Lawr lwytho logos

Byddwch yn glir ynglŷn â'ch amcanion

Cyn i chi gychwyn, meddyliwch am eich amcanion a gofynnwch y cwestiynau yma:

  • Pam ydych chi am ei wneud?
  • Beth ydych chi eisiau ei gyflawni? Beth yw'r prif negeseuon?
  • Ai nawr yw'r amser gorau?
  • Oes gennych ddigon o bobl i'w wneud? Pwy yw'r gynulleidfa darged?

Cynlluniwch yr hyn ydych am ei wneud

  • Mae amseriad yn bwysig. Efallai y byddwch am gael cyhoeddusrwydd mewn papurau wythnosol, nos weithiol a dyddiol, felly bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r dyddiau a'r amserau y maent yn cael eu cyhoeddi a'r dyddiadau cau golygyddol.
  • Byddwch yn ymwybodol o faint o amser ac ymdrech sydd ei angen i ysgrifennu datganiad newyddion a dewis siaradwr.  Gwnewch yn siŵr y bydd rhywun o'ch grŵp ar gael i siarad â'r wasg ac i wneud cyfweliadau radio a theledu.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich cyhoeddiad yn digwydd cyn dyddiad embargo'r Gronfa Loteri Fawr.  Golyga embargo na all y wybodaeth fynd yn gyhoeddus hyd nes yr amser a nodir ar y datganiad i'r wasg. Mae defnyddio embargo yn helpu gan y golyga fod y wasg yn derbyn y wybodaeth cyn y digwyddiad, gan eu galluogi i gynllunio.

Cynnwys pobl

  • Rhannwch syniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd gydag aelodau eraill eich grŵp ac anogwch eu cyfraniad.
  • Cyn i chi anfon datganiad newyddion allan i'r wasg, gofynnwch i rywun ei ddarllen i'w wirio am gamgymeriadau sillafu a chywirdeb ffeithiol. Yn benodol gwiriwch fod amser, dyddiad a lle wedi eu cynnwys yn ogystal ag amser, dyddiad a lle unrhyw ddigwyddiad neu lansiad.
  • Cyn i chi wahodd newyddiadurwyr i ymweld â’ch safle, gofynnwch i aelodau eich grŵp os ydych eisiau cael eu cynnwys drwy gael tynnu eu lluniau neu gael eu cyfweld. Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau fod gennych ganiatâd i dynnu lluniau pobl - yn arbennig plant.

Ewch amdani!

  • Anfonwch eich datganiad newyddion drwy ffacs neu e-bost.
  • Dilynwch y datganiad newyddion: ffoniwch y ddesg newyddion i wneud yn siŵr eu bod wedi cael y datganiad newyddion, a'u bod yn dod i'ch digwyddiad.
  • Byddwch yno i gwrdd â'r wasg ac i'w cyflwyno nhw i bawb sydd â stori dda.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi'r negeseuon allweddol iddynt am y prosiect.

Monitro'r canlyniadau

Mae'n hollbwysig eich bod yn gwneud hyn fel rhan o gyhoeddusrwydd fel y gallwch farnu'r hyn a weithiodd ar hyn a fethodd ar gyfer ymdrechion y dyfodol.

 

Denu diddordeb y wasg

Mae dwsinau o ddatganiadau newyddion yn cael eu hanfon at newyddiaduron papurau lleol pob dydd. I wneud yn siŵr fod eich un chi yn sefyll allan dilynwch y cynghorion yma:

  • Sicrhewch fod yr ongl newyddion yng nghyflwyniad eich datganiad i'r wasg.
  • Cofiwch: PWY, BETH, PAM, PRYD, BLE, SUT.
  • Cadwch ef yn fyr a syml ond gwnewch yn siŵr fod y ffeithiau yna i gyd.
  • Ceisiwch ddarganfod yr ongl wybodaeth ddynol gymaint ag sy'n bosibl a'i gefnogi â dyfyniad. Er enghraifft cynhwyswch ddyfyniadau gan y rhai a fydd yn cael budd o'r arian yma o fewn eich cymuned.
  • Dylid cynnwys rhifau cyswllt ar y datganiad os bydd angen mwy o wybodaeth.
  • Cofiwch gynnwys ein logo buddiolwyr ar eich datganiad. Gellir lawr lwytho hwn o'r adran isod.
  • Os ydych yn cynllunio cyhoeddiad neu lansiad, gwnewch yn siŵr ei fod yn cwrdd â therfynau amser y papurau newyddion yn eich ardal.
  • Mae datganiadau i'r wasg ar wefan Arian i Bawb (yn yr adrannau newyddion) os oes angen mwy o gymorth arnoch.

Cydnabyddiaeth grant

  • Dylai logo buddiolwyr Arian i Bawb ymddangos ar ddatganiadau newyddion. Gellir lawr lwytho hwn hefyd o adran derbynnydd y wefan.
  • Mae'ch grŵp wedi cytuno i gyd-weithio ag Arian i Bawb wrth gydnabod eich prosiect ac fe hoffem eich annog i anfon lluniau a fydd yn ein helpu i wneud hyn. Mae'n bwysig fod yr holl bersonau a gaiff eu ffotograffau yn ymwybodol y gall eu llun gael ei ddefnyddio ar gyfer deunyddiau hyrwyddo a'u bod yn rhoi caniatâd i chi eu defnyddio ar gyfer defnydd o'r math yma.
  • Mae'n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan riant neu warchodwr cyn y gellir tynnu lluniau o blant.
  • Ceisiwch sicrhau fod ein logo yn gwbl weladwy yn y lluniau. Mae hyn yn bosibl drwy ddefnyddio ein deunyddiau cydnabod grant, fel ein placiau wal. Os ydych yn cynnal digwyddiad mawr cwblhewch y ffurflen sydd â'r daflen yma a dychwelwch ef atom, efallai y bydd yn bosib i'n timau rhanbarthol roi cymorth i chi neu eich darparu â rhai eitemau i'w defnyddio.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwneud cyhoeddiad e-bostiwch pressoffice@awardsforall.org.uk.

 

Sut i fod yn gyfwelai da i'r wasg

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i bwy ydych chi'n gwneud y cyfweliad.
  • Penderfynwch ar ddwy neu dair neges allweddol yr ydych am eu trosglwyddo i gyrraedd eich amcanion, er enghraifft, y budd fydd eich sefydliad yn ei gael o'r arian.
  • Ystyriwch ba gwestiynau maent yn debygol o ofyn i chi a sut fyddwch yn eu hateb.
  • Lluniwch ddarlun - cofiwch osgoi ystadegau neu restrau hir.
  • Ceisiwch osgoi jargon neu iaith dechnegol.
  • Os nad ydych yn deall cwestiwn, gofynnwch i'r newyddiadurwr ei ailadrodd neu ei egluro. Peidiwch ag ateb cwestiynau ar destunau nad ydych yn gwybod dim amdanynt.

Sut i swnion dda ar y radio

Dilynwch y canllawiau ar gyfer cyfweliadau a'r wasg a amlinellir uchod, a holwch os yw'r cyfweliad yn fyw neu wedi ei recordio.

  • Siaradwch yn gliriach ac arafach na'r arfer.
  • Mae angen i dôn eich llais gyd-fynd â'ch neges.
  • Siaradwch â'r cyfwelydd a gwnewch gyswllt llygaid â nhw, anwybyddwch y meic.
  • Gadewch i'ch brwdfrydedd naturiol ddod allan - hwn yw un o'ch prif gryfderau.

Logos

Arlunwaith logos Arian i Bawb ynghyd â'r cyfarwyddiadau ar sut i'w lawr lwytho.

I lawr lwytho'r logos rhowch glic dde ar y llygoden ac yna cliciwch ar ‘save target as’.

Arian i Bawb yn


Dewiswch rhanbarth

Wedi'i ariannu yn eich ardal chi