blf

Arian i Bawb Cymru

Country Selection:

Rhowch alwad i ni ar: 0845 600 20 40


 

Rhyddid Gwybodaeth

Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae gofyn i ni gynhyrchu cynllun cyhoeddiadau. Yr hyn a olygwn wrth 'cyhoeddiad' yw gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd mewn nifer o ddulliau gwahanol: er enghraifft, adroddiadau ar bapur neu dudalennau'r we.

Mae'r Cynllun Cyhoeddiadau yn ddogfen sy'n disgrifio'r wybodaeth a gyhoeddwn yn rheolaidd, nodir sut mae'r wybodaeth ar gael, a manylion am unrhyw dal a godir am ddarparu'r wybodaeth. Dim rhestr o'n cyhoeddiadau yw hyn: mae'n disgrifio'r math o gyhoeddiadau a gyhoeddwn. Mae rhestr lawn o'n cyhoeddiadau yn adran gyhoeddiadau'r wefan.

Mae'r Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd wedi uno i greu'r Gronfa Loteri Fawr. Rydym yn disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei phasio bydd yn caniatáu i ni ddod yn endid cyfreithiol newydd ar wahan. Tan yr adeg honno rhaid i ni gadw cynlluniau cyhoeddi ar wahan i'r ddau gorff. Rhestrir gwybodaeth am gyhoeddiadau'r Gronfa Loteri Fawr ar y ddau.

Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn Braille, print bras, tap sain ac mewn ieithoedd cymunedol os wnewch chi ofyn amdanynt.

Sut i ofyn am wybodaeth

Mae llawer o'r wybodaeth a ddaliwn eisoes ar gael i chi. Cyn i chi wneud cais swyddogol dylech:
1. Chwilio ar ein gwefan am y wybodaeth
2. Edrychwch ar y cynllun cyhoeddi perthnasol nail ai un y Cronfa Cyfleoedd Newydd neu'r Cronfa Gymunedol

Os ydych yn dal methu dod o hyd i'r wybodaeth, neu os ydych yn dymuno'r wybodaeth ar ffurf arall (copi caled er enghraifft) cewch ofyn amdano dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth trwy e-bostio foi@biglotteryfund.org.uk neu trwy ysgrifennu at:

Corporate Information Adviser
Big Lottery Fund
1 Plough Place
London
EC4A 1DE

Nodwch eich bod yn gofyn am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a byddwch yn benodol am yr wybodaeth rydych yn gofyn amdano, gan y bydd hynny yn ein helpu i ddelio a'ch cais yn effeithiol. Byddwn yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. Efallai na fydd rhywfaint o'r wybodaeth ar gael i chi am ei fod wedi ei eithrio dan y Ddeddf.

Os yw hynny'n digwydd byddwn yn rhoi gwybod i chi gan nodi'r eithriad a pham nad allwn ryddhau'r wybodaeth.

Ceisiadau am ddata personol

Mae ceisiadau am ddata personol - gwybodaeth am unigolion byw - yn dod dan y Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth 1998. Os ydych am ofyn a oes gennym wybodaeth bersonol amdanoch chi, dylech ysgrifennu at:

Corporate Information Adviser
Big Lottery Fund
1 Plough Place
London
EC4A 1DE

Gan gyfeirio at y Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth yn eich cais.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o bwy ydych chi. Dylech gynnwys llungopi o dudalennau eich passport neu drwydded yrru a llun arno; a chopi gwreiddiol bil (ee trydan) neu ddatganiad banc neu gerdyn credyd, sy'n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad presennol. Gallwn ddychwelyd y wybodaeth atoch wedyn.

Byddai hefyd o gymorth pe bai chi yn medru dweud pa adran o'r Gronfa Loteri Fawr (hy pa Adran neu swyddfa) sy'n dal y wybodaeth.

Efallai bydd y Gronfa Loteri Fawr yn dal rhywfaint o'r wybodaeth yn ol lle mae ganddo'r hawl i wneud hynny dan y Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth 1998.


 


National Lottery Big Lottery Fund Heritage Lottery Fund