Er mwyn cael eich ystyried am grant, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais a’i hanfon yn ôl atom.
Byddwn yn gadael i chi wybod o fewn deuddeg wythnos os ydych wedi bod yn llwyddiannus.
Cyn i chi gychwyn llenwi’r ffurflen, mae dau beth ddylech ei wybod:
Mae enghreifftiau o wybodaeth a dogfennau coll yn cynnwys:
Gallwch deipio yn uniongyrchol i mewn i’r ffurflen gais, ond, mae’n rhaid i chi arbed y ffurflen i’ch cyfrifiadur eich hun yn gyntaf, ac mae’n rhaid fod gennych fersiwn 7, neu uwch, o Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Gweler ein dogfen Cefnogaeth Darllenydd PDF am gyngor pellach.
Os hoffech gopi papur o’r ffurflen a’r nodiadau arweiniad, ffoniwch 0845 600 20 40 neu ffôn testun 0845 755 6656 os gwelwch yn dda.
Os ydych yn gangen o sefydliad arall, bydd angen i’ch rhiant sefydliad gwblhau llythyr o gefnogaeth (MS Word, 50 KB). Mae gwybodaeth bellach am hyn ar gael ar dudalen 10 y nodiadau arweiniad.
Ffeiliau PDF
Mae ffeil PDF yn eich galluogi i lawr lwytho ac argraffu gwybodaeth yn gyflym a rhwydd.
I agor a theipio i mewn i ffeiliau PDF, mae angen i chi ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader.
Os oes gennych fersiwn gynharach o Reader ar eich cyfrifiadur, efallai na fydd hin bosibl ichi weld yr holl nodweddion sydd yn ein ffurflenni PDF.
Gallwch sefydlu’r fersiwn ddiweddaraf o Wefan Adobe, neu mae disgiau clawr cylchgrawn cyfrifiadur fel arfer yn cynnwys y fersiwn ddiweddaraf.
Nodwch os gwelwch yn dda, nid ydym yn darparu’r ffurflen gais mewn unrhyw fformat electronig arall.
Os ydych wedi darllen y nodiadau arweiniad a’ch bod yn teimlo nad yw Arian i Bawb Cymru yn addas ar gyfer eich prosiect, yna mae rhaglenni Loteri eraill a all fod yn addas ar eich cyfer. Am wybodaeth bellach ffoniwch linell gymorth y Loteri Genedlaethol ar 0845 275 0000, ffôn testun 0845 275 0022 neu gallwch ymweld â’r wefan yn: www.lotteryfunding.org.uk.