Defnyddio ein gwefan
Defnyddio ein gwefan
Gallwch ddefnyddio gwefan Arian i Bawb yn amodol ar y Telerau a’r Amodau a amlinellir ar y dudalen hon. Os byddwch yn ymweld â’r safle hwn ac yn ei ddefnyddio, mae’n arwydd eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau sydd mewn grym ar y pryd.
Eiddo deallusol / Hawlfraint
Mae’r deunydd (gan gynnwys testun, delweddau, sain, fideo ac animeiddiad) ar y wefan hon yn hawlfraint y Gronfa Loteri Fawr neu’i thrwyddedwyr. Ni chewch ailgyhoeddi, ail-drosglwyddo, ailddosbarthu neu fel arall rhoi'r deunydd ar gael i unrhyw grŵp arall neu mewn unrhyw gyfryngau eraill heb awdurdodiad ysgrifenedig blaenorol neu briodol.
Mae enwau, delweddau a logos sy’n adnabod y Gronfa Loteri Fawr yn nodau perchnogol y Gronfa Loteri Fawr ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb awdurdodiad ysgrifenedig blaenorol y Gronfa Loteri Fawr. Dylid cyfeirio ceisiadau at gymeradwyaeth o’r fath at:
1 Plough Place
Llundain
EC4A 1DE
Ffôn: 0207 211 1800
Ffacs: 0207 211 1750
E-bost: webmaster@biglotteryfund.org.uk
Rhowch fanylion eich defnydd bwriedig o’r deunydd perthnasol a nodwch eich manylion cyswllt: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.
Polisi cysylltu;
Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau sy'n cael eu cynnal ar y safle hwn. Serch hynny, nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle. Rhaid i’n tudalennau lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Dim ond gwefannau derbynyddion grantiau, partneriaid a gwefannau a all ddarparu gwybodaeth ddefnyddio sy’n ategu at ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain y byddwn yn cysylltu â hwy.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barnau neu gysylltiau’r gwefannau hyn.
Negeseuon e-bost ffug
Mae nifer o negeseuon e-bost yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd yn defnyddio enw’r Gronfa Loteri Fawr yn dweud wrth bobl eu bod wedi ennill arian. Mae fersiwn arall yn defnyddio enw Loteri’r Gemau Olympaidd. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw eu dileu a dweud wrth eich cyfeillion a chydweithwyr i wneud yr un peth. Mae’r negeseuon e-bost hyn yn rhai ffug a dylid eu hanwybyddu.
Nid yw’r Gronfa Loteri Fawr yn rhoi arian fel gwobr: rydym yn dosbarthu arian a godir gan Loteri Genedlaethol y DU at achosion da yn y DU a thramor. Ni fyddwn yn rhoi grantiau ac eithrio i bobl a sefydliadau sydd wedi ymgeisio i ni a byddwn yn dweud wrthynt eu bod yn llwyddiannus trwy lythyr, ac nid e-bost. Camelot sy’n ymdrin â gwerthiannau tocynnau’r Loteri a thocynnau buddugol. Eu rhif ffôn yw: 0845 910 0000.
Rydym wedi trafod y negeseuon e-bost hyn gyda Heddlu Llundain.
Ymwadiad
- Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio’r Wefan ar eich risg gyfan eich hunan ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled (boed yn ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ôl-ddilynol) sy’n deillio ohonoch chi’n defnyddio’r Wefan a’r Deunyddiau.
- Darperir yr holl Ddeunydd ar sail “FEL Y MAE” yn unig. Ni allwn warantu y bydd y Wefan neu unrhyw ran o’r Deunyddiau a ddarperir yn bodloni unrhyw un o’ch anghenion neu ofynion neu y bydd yn gyflawn, yn rhydd rhag gwallau, yn gywir neu y bydd yn cael ei gyflwyno heb ymyriad, nam neu wall. Gan hynny ac i'r graddau uchaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, rydym yn gwadu drwy hyn yr holl warantau ac amodau, boed yn glir, yn ymhlyg neu’n statudol, yn ymwneud â’r Wefan a’r Deunydd, gan gynnwys, ond heb fod wedi’i gyfyngu i unrhyw warant o ansawdd neu addasrwydd boddhaol at ddiben penodol a pheidio â throseddu yn erbyn hawliau trydydd parti.
- Byddwn yn anelu at gywiro unrhyw wallau neu hepgorion cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn hysbysiad ohonynt.
Rydych chi’n cytuno y byddwch yn cydymffurfio gyda’r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol a ni fyddwch yn defnyddio’r Wefan yn fwriadol at unrhyw ddibenion amhriodol neu anghyfreithlon (gan gynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol).

