Defnyddio ein gwefan
A ydych chi’n profi anawsterau wrth ddarllen, argraffu neu gadw dogfennau PDF?
Er y bydd Adobe Reader yn gweithio’n berffaith ar ran fwyaf o beiriannau, efallai mewn rhai enghreifftiau y bydd defnyddwyr yn profi anawsterau. Isod ceir rhai awgrymiadau ar rai o’r materion mwyaf cyffredin y gallai rhai pobl ddod ar eu traws:
- Y cyfan yr ydych chi’n ei weld yw tudalen wag – wrth agor dogfen PDF fawr ar-lein, rhaid i Adobe Reader lawr lwytho’r ddogfen yn gyntaf; gall hyn gymryd peth amser – rhai munudau o bosibl gan ddibynnu ar gyflymder y cysylltiad Rhyngrwyd. Wrth i'r lawr lwytho fynd rhagddo, bydd y porwr yn dangos tudalen wen wag. Mae hyn yn arferol; peidiwch â chau’r dudalen hon, gan y bydd hynny’n canslo'r lawr lwytho.
- Methu cadw dogfen - gwiriwch i weld a ydych chi’n defnyddio’r fersiwn cywir o Adobe Reader. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio fersiwn 7 neu uwch er mwyn cadw testun mewn PDF. Efallai na fydd fersiynau newydd yn gweithio ar systemau gweithredu hŷn megis Windows 98.
Ymwelwch â thudalen gefnogaeth Reader am wybodaeth bellach.
- Nid yw’r ddogfen yn cadw eich testun – sicrhewch eich bod yn cadw'r ddogfen PDF i'ch cyfrifiadur yn gyntaf, ac wedyn yn ei hagor.
- Defnyddwyr Windows; defnyddiwch y llygoden i dde-glicio ar gyswllt y ddogfen yr ydych yn ceisio’i darllen, a dewiswch "Save Target as". Yna agorwch y ddogfen o’ch cyfrifiadur.
- Defnyddwyr Macintosh; Daliwch y fysell Option i lawr a chliciwch ar gyswllt y ddogfen.
- Mae gan fersiynau diweddarach o Adobe Reader nodwedd “Detect and Repair”. Agorwch Adobe Reader a dewiswch y ddewislen Help a chliciwch ar eitem ddewislen “Detect and Repair” neu “Repair Installation”.
- Ceisiwch ddiweddaru eich porwr i'r fersiwn gyfredol. Dylai defnyddwyr Internet Explorer yn Windows fynd i'r Ganolfan Ddiweddaru Microsoft. Ar gyfer porwyr eraill megis Firefox, Opera a Safari, ewch i'w gwefannau priodol am fanylion pellach.

