Rhyddid gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi creu hawl statudol i fynediad at wybodaeth gyhoeddus Fel corff cyhoeddus, os fyddwn yn derbyn cais ysgrifenedig am wybodaeth, sy’n nodi enw a chyfeiriad cyswllt, mae rheidrwydd arnom i ddarparu’r wybodaeth honno o fewn 20 diwrnod gwaith, oni bai bod eithriad Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol.
Y Cynllun Cyhoeddi
Mae’r Ddeddf yn gosod rheidrwydd arnom i gynhyrchu Cynllun Cyhoeddi. Golyga ‘cyhoeddi’ sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd mewn amrywiol ffurfiau: er enghraifft, adroddiadau ar bapur neu dudalennau ar y we.
Mae’r cynllun cyhoeddi yn ddogfen sy’n disgrifio’r wybodaeth yr ydym yn ei gyhoeddi yn rheolaidd, lle y gellir dod o hyd iddo, ac os oes tâl amdano. Nid yw’n rhestr o’n cyhoeddiadau: mae’n disgrifio’r math o wybodaeth yr ydym yn ei gyhoeddi. Ceir rhestr llawn o’n cyhoeddiadau yn adran cyhoeddiadau’r wefan hon.
Mae ein cyhoeddiadau ar gael, ar eich cais, mewn Braille, print bras, tâp sain, yn Gymraeg ac mewn ieithoedd cymunedol.
Sut i wneud cais am wybodaeth
Mae llawer o’r wybodaeth sydd gennym eisoes ar gael i chi. Cyn i chi wneud cais swyddogol dylech:
- chwilio am y wybodaeth ar ein gwefan
- edrych ar gynllun cyhoeddi Cronfa Loteri Fawr
Os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, neu os oes angen gwybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan mewn ffurf wahanol (copi caled, er enghraifft) gallwch ofyn amdano dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
I wneud hyn dylech gysylltu gyda Robert Holland, ein Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol drwy anfon e-bost at foi@biglotteryfund.org.uk neu drwy ysgrifennu at:
Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cronfa Loteri Fawr
1 Plough Place
Llundain
EC4A 1DE
Cyfeiriwch at eich cais fel cais Rhyddid Gwybodaeth a byddwch yn benodol am y wybodaeth yr ydych ei eisiau, gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddelio’n effeithiol gyda’ch cais. Byddwn yn cydnabod eich cais, a bydd yn rhaid i ni ateb yn llawn o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae’n bosibl na fydd rhywfaint o’r wybodaeth ar gael os yw’n syrthio dan un o eithriadau’r Ddeddf. Pan fydd hynny’n digwydd, byddwn yn eich hysbysu pa eithriad sy’n berthnasol ac, yn y mwyafrif o achosion, pam na ellir rhyddhau’r wybodaeth.
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Bydd ceisiadau am wybodaeth o ran cyflwr yr amgylchedd yn cael eu trin dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Mae gan y Rheoliadau ragdybiaeth datgelu. Er mwyn gwneud cais am wybodaeth dan y rheoliadau hyn dylech ddilyn yr un broses â’r un ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Logiau datguddio
Rhwng 1 Ionawr 2005 a 31 Rhagfyr 2007, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi derbyn 416 cais am wybodaeth, oedd yn gofyn am 845 darn gwahanol o wybodaeth. Rydym wedi'n hymrywno i fod yn agored a byddwn ond yn defnyddio eithriadau ble teimlwn fod dadl gref dros ddiddordeb cyhoeddus dros wneud hynny.
Dim ond pum cais am adolygiad mewnol o'n penderfyniad yr ydym wedi ei dderbyn a does dim cwynion wedi eu cyflwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae ystadegau ar y mathau o geisiadau a dderbyniwyd rhwng 2005 a 2007 a logiau datguddio ar gyfer bob blwyddyn wedi eu cynnwys isod:
Nodiadau cyngor partner dyfarnu
Mae'r nodiadau cyngor partner dyfarnu yn rhoi arweiniad ar oblygiadau DRhG a RhGA ar Barterniaid Dyfarnu y Gronfa Loteri Fawr.
Ein hymrwymiad at fod yn agored a gwasanaeth cwsmer
Os nad oedd eich cais am arian Loteri yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio’r rheswm. Yn sgil y nifer fawr o geisiadau a dderbynnir, ni fyddwn fel rheol yn cynnig adborth manwl i bob ymgeisydd aflwyddiannus. Gall amddiffyn ein gweithdrefnau gwrth-dwyll hefyd gyfyngu ar ein hadborth.
Serch hynny, rydym yn parhau i ymrwymo at fod yn agored, ac os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am eich cais aflwyddiannus, dylech ysgrifennu at y swyddfa a anfonodd y llythyr penderfyniad atoch. Byddwn yn gwneud ein gorau i esbonio ein penderfyniad heb yr angen i chi wneud cais Rhyddid Gwybodaeth.
Gan fod rhyddhau’r wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn golygu ei fod ar gael i bawb, yn unrhyw le yn y byd, teimlwn ei fod yn fwy o gymorth darparu gwybodaeth am eich cais fel gwasanaeth cwsmer da yn hytrach na gofyn i chi ddibynnu ar ddeddfwriaeth.
Os hoffech drafod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol gallwch ffonio Robert Holland ar 020 7211 3736.
Ceisiadau am wybodaeth bersonol
Bydd ceisiadau am wybodaeth bersonol yn cael eu trin dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Os ydych am wybod os oes gennym wybodaeth bersonol amdanoch, dylech ysgrifennu at:
Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cronfa Loteri Fawr
1 Plough Place
Llundain EC4A 1DE
Cyfeiriwch at y Ddeddf Diogelu Data yn eich cais
Mae gofyn i chi ddarparu prawf o’ch hunaniaeth. Dylai hyn gynnwys copi o dudalennau adnabod eich trwydded deithio gyfredol neu drwydded yrru gyfredol gyda’r llun; a chopi gwreiddiol o fil gwasanaethau cyfredol (er enghraifft, trydan), neu ddatganiad banc neu gerdyn credyd, sy’n cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad.
Os oes angen dychwelyd y dogfennau, byddwn yn eu hanfon yn ôl atoch. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe bai modd i chi ddangos pa ran o Cronfa Loteri Fawr (pa adran, cyfarwyddiaeth neu swyddfa) yr ydych yn credu sy’n cadw’r data, er mwyn cyfyngu ar y gwaith o chwilio.
Gallwn wrthod mynediad at eich gwybodaeth lle bo gennym hawl i wneud hynny dan y Ddeddf Diogelu Data 1998.



