Cyhoeddusrwydd a logos
Llongyfarchiadau ar dderbyn grant gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr.
Mae'n amod yn eich grant eich bod yn cydnabod yn gyhoeddus ein bod yn ariannu eich prosiect.
Trwy dderbyn a chytuno i’n grant rydych chi wedi gwneud ymrwymiad i ddefnyddio ein logo ble bynnag y gallwch chi, er enghraifft ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, cyfarpar ac mewn digwyddiadau.
Dim ond prosiectau sydd wedi derbyn arian oddi wrthym ni all ddefnyddio’r logo felly gobeithiwn y byddwch yn ei ddefnyddio’r eang ac yn ei ystyried yn gydnabyddiaeth weledol o’ch llwyddiant.
Deunyddiau cydnabod
Mae gennym ystod o ddeunyddiau brand y Gronfa Loteri Fawr y gellir eu hanfon atoch yn rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gydnabod eich grant.
Gan ein bod yn ariannu cymaint o brosiectau, rhaid i ni gyfyngu ar y swm yr ydym yn anfon at bob prosiect.
Deunyddiau sydd ar gael ar hyn o bryd yw:
| Eitem | Cod Stoc | Archeb uchaf |
|---|---|---|
| Plac persbecs | BLF-BR099KT | 1 fesul safle |
| Plât cyfarpar alwminiwm bach | BIG-PLAQASBI | 1 fesul darn o gyfarpar |
| Dalen sticeri A4 (glas neu binc) |
BLF-BR05101 glas BLF-BR06101 pinc |
5 dalen o bob lliw |
| Sticer cyfarpar bach (glas neu binc) |
BLF-BR05201 glas BLF-BR06201 pinc |
10 fesul prosiect |
| Sticer cyfarpar canolig (glas neu binc) |
BLF-BR05301 glas BLF-BR06301 pinc |
10 fesul prosiect |
| Sticer cyfarpar mawr (glas neu binc) |
BLF-BR05401 glas BLF-BR06401 pinc |
10 fesul prosiect |
| Baner finyl (glas neu binc) |
BIG-BANNBBI glas BIG-BANNPBI pinc |
10 fesul prosiect |
| Trosglwyddyn logo i'w smwddio (ar gyfer dillad, ayyb) |
BIG-IOTWBLB testun du ar gefndir gwyn BIG-IOTBWLB testun gwyn ar gefndir du | 10 fesul prosiect |
| Sticer cerbyd (clir gyda thestun du neu wyn) |
BIG-VEHBB du BIG-VEHWB gwyn |
2 fesul cerbyd |
Sut i archebu
Er mwyn archebu unrhyw un o’r eitemau hyn, llanwch y ffurflen archebu cydnabyddiaeth grant neu fel arall anfonwch e-bost at a4abranding@capitalcommunicationsgroup.com gyda'ch archeb.
Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi’r cod stoc a’r nifer gofynnol ar gyfer pob eitem yn eich archeb a'ch bod yn cynnwys cyfeiriad anfon lle gellir llofnodi am yr archeb.
Os yw’ch prosiect yng Nghymru anfonir eitemau cydnabyddiaeth grant dwyieithog atoch chi. Sylwer nad yw cwmnïau cludo yn gallu cludo i gyfeiriadau Blwch PO.
Yma gallwch lawr lwytho logo'r Gronfa Loteri Fawr ac arweiniad ar sut i’w ddefnyddio.
Cyhoeddusrwydd
Bydd cyhoeddusrwydd effeithiol yn dweud wrth bobl pwy ydych chi, beth ydych chi’n ei wneud a sut y bydd eu cymuned yn elwa.
Mae’n bwysig rhoi gwybod i bobl ble mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario ac i annog eraill i ymgeisio am grantiau. Bydd y ddogfen arweiniad ar gyhoeddusrwydd yn rhoi peth gwybodaeth i chi ar sut i gynhyrchu cyhoeddusrwydd.
Gallwn gyflenwi eitemau megis crysau t a balŵns ar gyfer agoriadau a digwyddiadau lansio prosiectau. Gallwch archebu’r rhain trwy lanw’r ffurflen archebu marchnata neu gysylltu â ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk
Lawr lwytho templed datganiad i’r wasg

