Neidio i'r cynnwys

Brwydr i Achub Y Gwenyn

“Er mwyn magu’r gwenyn hyn, rydym yn defnyddio technegau sydd wedi’u harloesi gan wyddonwyr Americanaidd blaenllaw. Fel elusen, ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb grant Loteri Arian i Bawb Cymru.”

Richard Wilson

Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro yn bridio gwenyn freninesau brodorol er mwyn diogelu yn erbyn afiechyd.

Mae gwenynwyr yn Sir Benfro yn arloesi prosiect hanfodol er mwyn atal difodiant gwenyn a helpu yn y frwydr yn erbyn firws dirgel y mae rhai gwyddonwyr arweiniol ar draws y byd yn honni sy’n “drychineb byd-eang” ar fin digwydd.

Er i fwyafrif y cytrefi gwenyn mêl gael eu colli ym 1921 oherwydd cychwyn blaenorol o’r afiechyd, mae pocedi o wenyn Cymreig brodorol yn goroesi mewn ardaloedd ynysig. Ymddengys bod y gwenyn hyn yn gwrthsefyll yr afiechyd ar ôl esblygu i gyd-fynd ag amodau lleol.

Mae’r dyfarniad wedi darparu offer i alluogi i’r grŵp sefydlu rhaglen fridio gan ddefnyddio gwenyn brodorol. Mae digon o freninesau newydd yn cael eu magu er mwyn ailsefydlu stociau gwenynwyr Sir Benfro yn rhad ac am ddim, ac yn ei dro, stociau yng ngweddill Cymru. Maent yn gobeithio y bydd hyn yn y pendraw yn cynyddu stoc y gwenyn Cymreig brodorol ac yn sefydlu nifer cynyddol o gytrefi sy’n gwrthsefyll afiechydon a firysau yng Nghymru gan sicrhau parhad ym mheilliad cnydau a diogelu a chynnal yr amgylchedd Cymreig.

Mae’r offer newydd wedi helpu i ddatblygu ac annog mwy o gyfleoedd chwarae awyr agored ar gyfer y plant sy’n mynychu’r grŵp.

 

Astudiaethau Achos

Gofyn i'r Gronfa

Gofyn i'r Gronfa - Holi am ariannu a chael ateb yn ôl

Ffeithiau allweddol

  • Derbynnydd Grant: Cymdeithas Gwenynwyr Sir Benfro
  • Teitl y Prosiect: ‘Prevent the Extinction of the Honey Bee’
  • Swm a ddyfarnwyd: £5,000
  • Lleoliad: Cymru
  • Dyddiad y dyfarniad: Hydref 2008
  • Rhaglen Grantiau: Arian i Bawb Cymru

Wedi'i ariannu yn eich ardal chi