Neidio i'r cynnwys

Clwb Heartbeat

"Does dim amheuaeth fod fy iechyd wedi gwella ers imi ddod yma. Pensiynwyr yw'r mwyafrif o'n haelodau ac mae ymuno â chlwb o'r math yma yn llawer rhatach na mynd i'r gampfa. "

Dave Barratt

Gyda blynyddoedd o lafur corfforol ar y fferm, credai Bernard Holland sy’n 81 mlwydd oed mai problemau’r galon oedd y lleiaf o’i ofidiau. Ond bum mlynedd yn ôl, fe gafodd lawdriniaeth ddargyfeiriol ac mae ei farn am gadw’n iach a heini wedi newid yn gyfan gwbl erbyn hyn.

“Mae’n rhoi braw i chi pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd ac mae’n gwneud i chi gymryd golwg arall arnoch chi eich hun.” Yn awr y mae’n un o’r niferoedd o bobl sy’n cael budd o’r hyn sydd gan grŵp ‘Heartbeat’ yn Sir Fynwy i'w gynnig. Ers ymron i 10 blynedd, mae'r grŵp wedi bod yn helpu i adsefydlu cleifion coronaidd y galon fel Bernard ac mae'n cael ei weld fel llinell bywyd i lawer yn yr ardal.

"Mae'r clwb yn eich helpu i sylweddoli fod ymarfer corff yn bwysig ac mae'n eich atgoffa fod yn rhaid i chi barhau i symud os ydych chi am aros yn iach ac yn heini," eglurodd Bernard.

Yn flaenorol, nid oedd cyfleuster hir dymor yn yr ardal i adsefydlu pobl gyda phroblemau cardiofasciwlar ac roedd yn rhaid i'r grŵp wneud ymarferion llawr. Roedd hynny tan iddynt dderbyn arian o dan Arian i Bawb Cymru i brynu'r offer newydd gan gynnwys beiciau ymarfer a pheiriannau traws-hyfforddi. Yn awr mae ganddynt hyd at 50 o aelodau o bob cwr o’r ardal. Mae pobl o bob math o gefndiroedd gwahanol sy’n rhannu’r un nod yn dod ynghyd bob bore dydd Gwener.

Mae ffermwyr, doctoriaid a chyn weithwyr dur yn mynychu’r sesiynau wythnosol a gynhelir yng nghanolfan hamdden Cil-y-Coed. Ynghyd â gwella iechyd ei aelodau, mae’r cyfleoedd cymdeithasol a’r cyfeillgarwch a grëir yn y clwb yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gydag aelodau yn mynd ar deithiau a gwyliau gyda’i gilydd yn rheolaidd.

 

Astudiaethau Achos

Gofyn i'r Gronfa

Gofyn i'r Gronfa - Holi am ariannu a chael ateb yn ôl

Ffeithiau allweddol

  • Derbynnydd Grant: Clwb Heartbeat
  • Teitl y Prosiect: Clwb Heartbeat
  • Swm a ddyfarnwyd: £5,000
  • Lleoliad: Cymru
  • Dyddiad y dyfarniad: 9 Awst 2004
  • Rhaglen Grantiau: Arian i Bawb Cymru

Wedi'i ariannu yn eich ardal chi