Cylch Meithrin Llanuwchllyn
"Mae’r offer newydd wedi helpu i ddatblygu ac annog mwy o gyfleoedd chwarae awyr agored ar gyfer y plant sy’n mynychu’r grŵp. "
Cylch Meithrin Llanuwchllyn yn gwella ei gyfleusterau chwarae.
Mae gan bob plentyn
yr hawl i chwarae ac mae chwarae a ddewisir yn rhydd yn hanfodol bwysig yn natblygiad iach holl blant a phobl ifanc.
Mae gan blant yr hawl i ddarpariaeth chwarae o ansawdd o fewn eu cymunedau. Fe wnaeth hwb ariannol gan y rhaglen Arian i Bawb Cymru alluogi i Gylch Meithrin Llanuwchllyn wella ei gyfleusterau chwarae awyr agored trwy brynu ystod o offer chwarae newydd a sied storio i gadw’r cyfan yn ddiogel.
Mae’r offer newydd wedi helpu i ddatblygu ac annog mwy o gyfleoedd chwarae awyr agored ar gyfer y plant sy’n mynychu’r grŵp.

