Neidio i'r cynnwys

Sut i ymgeisio am grant

  • Darllenwch yr Arweiniad i Ymgeiswyr gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch y grant, sut i ymgeisio a beth i'w ysgrifennu yn y ffurflen gais.
  • Yna lawr lwythwch a llanwch y ffurflen gais. Dychwelwch y ffurflen atom ni 3 mis cyn y dymunwch i’ch prosiect ddechrau.
  • Byddwn yn asesu eich cais ac yn eich hysbysu o’n penderfyniad o fewn chwe wythnos. Os credwn y gallwn ariannu eich prosiect - byddwn yn gofyn i chi am ddogfennau ategol (gweler tudalen 16 yr Arweiniad i Ymgeiswyr).
  • Beth fydd Arian i Bawb yn ei ariannu? Gweler tudalen 8 yn yr Arweiniad i Ymgeiswyr am restr o’r gweithgareddau a’r eitemau y gellir eu hariannu, a pha rai na ellir eu hariannu.

Gallwch deipio’n uniongyrchol i'r ffurflen ymgeisio, ond, mae’n rhaid i chi gadw’r ffurflen i’ch cyfrifiadur yn gyntaf, a rhaid bod gennych fersiwn 7, neu uwch, o Adobe Reader wedi’i osod er mwyn gallu cadw eich atebion.

Ar gyfer y rheini sydd wedi ymgeisio i Arian i Bawb yn y gorffennol, sylwer bod y broses ymgeisio wedi newid – mae tudalen 10 yr Arweiniad i Ymgeiswyr yn esbonio'r broses newydd.

Pwy ddylwn i gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth?

ffoniwch ein tîm am gyngor ar 0300 123 07 35

Anfonwch e-bost atom ni ar enquiries.wales@biglotteryfund.org.uk

Dydw i ddim yn siŵr a yw’r Rhaglen hon yn addas ar gyfer

Darllenwch drwy’r nodiadau arweiniad yn ofalus er mwyn sicrhau y gallwch chi fodloni nodau’r Rhaglen.

Hefyd, edrychwch ar ein tudalen grantiau bach y Loteri am fanylion pellach ar y grantiau eraill sydd ar gael, neu ewch i lotterygoodcauses.org.uk

Os ydych chi’n parhau’n ansicr, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 028 9055 1455 30 neu anfonwch e-bost at enquiries.wales@biglotteryfund.org.uk

Gofyn i'r Gronfa

Gofyn i'r Gronfa - Holi am ariannu a chael ateb yn ôl